Skip to main content

Rydych yma

Perchnogion tai

Os ydych yn berchennog tŷ sy’n cynllunio estyniad neu addasiad, efallai y bydd angen archwiliad rheoliadau adeiladu arnoch yn ogystal â chaniatâd cynllunio. Mae caniatâd cynllunio’n ymwneud â sut mae adeilad yn edrych, a rheoliadau adeiladu’n gwneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel o safbwynt adeileddol.

Mae sicrhau cymeradwyaeth i waith adeiladu gan dîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol yn gwarantu bod y gwaith yn ddiogel ac yn bodloni safonau rheoliadau adeiladu, yn ogystal â’ch amddiffyn chi yn erbyn adeiladwyr anonest. Felly, gofynnwch am eu cyngor cyn dechrau unrhyw brosiect adeiladu.

Perfformiad Rheolaethi Adeiladu

Mae’r swyddogaeth rheolaethi adeiladu yng Nghymru a Lloegr yn gweithio gyda pherchenogion eiddo, datblygwyr, penseiri, contractwyr a chrefftwyr i sicrhau bod gwaith adeiladu’n bodloni’r safonau sydd wedi’u nodi yn y Rheoliadau Adeiladu. Fodd bynnag, oherwydd bod system ddeuol gystadleuol o reolaethi adeiladu’n bodoli yng Nghymru a Lloegr (sectorau cyhoeddus a phreifat), mae Gweinidogion Llywodraeth olynol yng Nghymru a Lloegr wedi cadw grŵp cynghori i fesur perfformiad.

Pa safonau sy’n berthnasol i sefydliadau sy’n gwneud gwaith rheoli adeiladu – a sut mae’r rhain yn eich helpu? Dysgwch fwy.